|
|
PROSIECT PABA Adref
|
|
 |
| |
Ymweliadau Fferm yn yr Hydref – Bioamrywiaeth ar y Fferm
Mewn ymgynghoriad â’n hariannwyr, sef Cyngor Cefn
Gwlad Cymru a’r Fforwm ESD&GC ym Mhowys, rydym ar gael
i hwyluso ymweliadau Fferm Ysgolion yr hydref hwn, gyda phwyslais
arbennig ar bioamrywiaeth a dysgu sgiliau, a hynny ar gyfer plant
o bob oed.
Yn aml, profiad personol uniongyrchol yw’r ffordd orau i
ddisgyblion ddod i’r afael â’r cysyniadau hyn
a’r materion cymhleth. Mae trip ysgol – wedi’i
gynllunio’n dda rhwng yr athro a’r ffarmwr – yn
cynnig lleoliad cofiadwy i weld, cyffwrdd â, a deall realiti
bioamrywiaeth. Gall plant weld eu hunain beth sydd yna, gallant
glywed gan y ffarmwr sut y gall bethau fod wedi newid yn ddiweddar,
a gallant ddysgu pa gamau y mae’r ffarmwr yn eu cymryd i
hyrwyddo bioamrywiaeth yn lleoliad y ffarm lleol. Mae nifer o’r
ffermwyr gwirfoddol sy’n gweithio gyda’r Prosiect PABA
yn rhan o Gynllun Amaethyddol Amaeth-Amgylcheddol Tir Gofal, ac
mae rhai yn organig a/neu’n ymwneud â datblygu arfer
da.
Tyfu eich tatws eich hun yn 2009
Cofrestrwch nawr!
Yn 2008, fe wnaeth 48 o Ysgolion Powys gofrestru a derbyn bagiau
o datws hadyd a thaleb i brynu compost yn ogystal â chyfarwyddiadau
a phosteri!
Gallwch gymryd rhan YN RHAD AC AM DDIM, a bydd yr ysgolion hynny a wnaeth
gymryd rhan eleni (2008) yn derbyn e-bost yn eu gwahodd i gymryd rhan yn
2009. Yn ogystal, mae’r Cyngor Tatws yn cynnig 2000 o becynnau tyfu
arall i alluogi i hyd yn oed mwy o ysgolion fanteisio o’r prosiect.
Bydd y rhain ar gael i’r 2000 ysgol cyntaf a fydd yn cofrestru ar-lein.
Cliciwch ar y botwm isod i gofrestru, dim ond os na wnaethoch gofrestru
y llynedd!
http://www.potatoesforschools.org.uk/
|


Disgyblion o Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel Rhydieithon
yn archwilio’r goedwig gyda’r ffarmwr Alex Higgs ym mis
Mehefin 08
Tyfu Llysiau yn yr Ysgol?
Mae nifer o ysgolion wedi cysylltu â ni i ofyn am gyngor,
gwybodaeth a chyllid ar gyfer garddio mewn ysgolion – tyfu
bwyd yn hytrach na blodau i gysylltu â’r Cwricwlwm Cenedlaethol
a dysgu sgiliau ymarferol.
Am becyn gwybodaeth rhad ac am ddim cynhwysfawr, cysylltwch â ‘Garden
Organic’.
‘Garden Organic’ – cyswllt
ar gyfer ysgolion
|
Glendid Bwyd Sylfaenol – sgil i bawb
Mae’r Prosiect PABA yn falch o fod wedi gallu cynnig e-ddysgu
i ysgolion ar gyfer y Dystysgrif Glendid Bwyd Sylfaenol. Hyd yn hyn,
mae deuddeg o ysgolion wedi manteisio ar y cyfle, gydag athrawon, cynorthwywyr,
ffermwyr, rhieni a disgyblion – rhai ohonynt mor ifanc â 10
oed – yn ennill tystysgrifau gan ddefnyddio pecyn e-ddysgu y
gellir mynd iddo ar y cyfrifiadur, naill ai yn yr ysgol neu gartref.
Mae’r sgil hanfodol hwn yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch bwyd
a’r camau a’r arferion ymarferol y mae angen eu cymryd
i adnabod a lleihau peryglon iechyd posibl. Mae’r Prosiect PABA
yn falch o fod yn gweithio gyda ‘Creative Learning Solutions’,
a ddatblygodd yr adnodd hon. Mae lleoedd yn dal i fod ar gael yn rhad
ac am ddim – am fwy o wybodaeth cysylltwch â Caroline Davies,
Cydlynydd y Prosiect. Am
gipolwg o’r meddalwedd, cliciwch yma:
|


Disgyblion yn ‘Bettws Lifehouse’ yn
derbyn eu Tystysgrifau Glendid Bwyd Sylfaenol
|
Stondin y Prosiect PABA yn y Sioe Fawr
Ym mis Gorffennaf eleni, roedd y Prosiect yn ddigon ffodus i gael
gwahoddiad gan Gyngor Sir Powys i gynnal arddangosfa wedi’i
staffio gyda gweithgareddau i blant y tu allan i Bafiliwn Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (y WLGA) yng nghanol maes y sioe. Am un
diwrnod yn unig – sef dydd Iau, diwrnod olaf y sioe – roeddem
ar gael i gwrdd â rhieni, athrawon a ffermwyr oedd â diddordeb
mewn addysgu plant am ffermio. Derbyniwyd ymholiadau o Bowys a
rhannau eraill o Gymru, a byddwn yn dilyn ymlaen ar y rhain yr
haf/hydref hwn.
Roedd y cwestiynau a dderbyniwyd yn amrywio o “Beth sy’n
digwydd yn fy ardal i?” i “Sut ydw i’n mynd ati
i agor fy fferm ar gyfer ymweliadau gan ysgolion?” a “Rhowch
fwy o wybodaeth i mi am y Marchnadoedd Ffermwyr Ysgolion newydd – sut
yn union y maent yn gweithio?”
Os hoffech sgwrs am unrhyw ran o’n gwaith neu eich syniadau
chi, mae croeso i chi gysylltu â ni!
|

|
Swyddogion Prosiect PABA newydd
ar gyfer Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog 
Jane Evans (Sir Faesyfed), Wayne Sargeant
(Sir Frycheiniog), Caroline Davies (Sir Drefaldwyn) Erbyn hyn, mae Swyddogion Prosiect PABA ar gyfer Sir Faesyfed
a Sir Frycheiniog wedi’u recriwtio i hyrwyddo a hwyluso ymweliadau
fferm, ac i ddatblygu’r Prosiect PABA trwy Bowys.
Lleolir Wayne Sargeant yn Aberhonddu, a lleolir Jane Evans yn Neuadd
y Sir, Llandrindod. Mae’r ddau’n gweithio rhan amser, ac
i ddechrau, gellir cysylltu â hwy trwy anfon e-bost
at cafe@powys.gov.uk Bydd Swyddogion Prosiect yn gweithio gydag ysgolion i hwyluso
ymweliadau fferm ysgolion, yn cynnwys materion er enghraifft asesiad
risg a chysylltiadau â’r cwricwlwm cenedlaethol a’r
adnoddau sydd ar gael. Hefyd, byddant yn helpu ysgolion i gynnal
Marchnadoedd Ffermydd Ysgolion ac i ddatblygu coginio ymarferol
a Glendid Bwyd Sylfaenol trwy e-ddysgu. Cynllunnir cylchlythyr
ar gyfer yr hydref, a chaiff y gwefan PABA eu datblygu i adlewyrchu
gweithgareddau yn Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed wrth i’r
sir baratoi ar gyfer Pythefnos Fwyd Prydeinig a Blwyddyn Bwyd a
Ffermio (Medi 07 hyd Gorffennaf 08).
|
|
Pythefnos Fwyd Prydeinig!
22 Medi hyd 7 Hydref 2007
Bydd pob ysgol yng Nghymru yn derbyn llyfryn dwyieithog cyntaf
Pythefnos Fwyd Cymru tua dechrau mis Medi (yn lle llyfryn Pythefnos
Fwyd Prydeinig, sef ‘Putting the Ooh Back into Food’).
Bydd yn cynnwys astudiaethau achos o Gymru, ac yn rhoi cyfle i
gymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol. Rhowch wybod i’r
Prosiect PABA am y gweithgareddau yr ydych yn eu cynllunio!
Pa gyfleoedd y gall Pythefnos Fwyd Prydeinig ddod â hwy
i’ch dosbarth?
- Addysgu pobl ifanc am yr amrywiaeth o fwyd hyfryd sydd ar gael,
ac am fanteision iechyd a hyfrydwch bwyta cynnyrch safonol, ffres,
tymhorol sy’n dod o ardal arbennig.
- Rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau coginio ymarferol sylfaenol,
a’u cyffroi i ddatblygu’r rhain ymhellach adref.
- Cynyddu faint o addysg bwyd sydd mewn ysgolion, trwy annog
athrawon i gynnal digwyddiadau arbennig ar gyfer pobl ifanc yn
ystod y pythefnos, yn y gobaith y bydd hyn yn annog eu brwdfrydedd
a’u diddordeb.
Lawrlwythwch
mwy o fanylion yma:
|
Hyfforddiant i Ffermwyr
ar gyfer Ymweliadau Addysgol - Cwrs CEVAS
Mae’r Prosiect yn cynnal cwrs hyfforddi tri diwrnod ar gyfer
ffermwyr sy’n cynnal ymweliadau ysgolion yr hydref hwn. Mae’r
cynllun hwn, sy’n arwain at achrediad gan Rwydwaith y Coleg
Agored (OCN), wedi bod yn rhedeg yn Lloegr ers sawl blwyddyn, ac
mae dros 600 o ffermwyr wedi’i gwblhau.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth FACE (Addysg Ffermio a Chefn Gwlad) Cymru,
ar y cyd â’r Prosiect PABA a gyda grant gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru gynnal peilot o’r Hyfforddiant CEVAS cyntaf
erioed yn Y Drenewydd. Fe wnaeth chwech o ffermwyr gwblhau’r
cwrs a chyflwyno portffolios, ac fe wnaeth pump aelod staff o PABA
a FACE Cymru gwblhau’r cwrs er mwyn hyfforddi fel hyfforddwyr
er mwyn cyflwyno cyrsiau yng Nghymru yn y dyfodol.
Gyda chymorth y Coleg YMCA, bydd FACE Cymru a’r Prosiect
PABA yn cynnig cwrs yn Y Drenewydd ar 24, 25 Medi a 1 Hydref.
Am
fanylion, cliciwch yma:
Lawrlwythwch
ffurflen archebu
|
Blwyddyn Bwyd a Ffermio – ewch
i ymweld â fferm eleni!
Blwyddyn Bwyd a Ffermio
Yn dechrau Medi 2007 hyd Gorffennaf 2008
Ymgyrch i hyrwyddo byw’n iach trwy roi profiad uniongyrchol i bobl
ifanc o gefn gwlad, ffermio a bwyd. Dyma’r flwyddyn i drio ymweliad
fferm ysgol fel ‘ystafell ddosbarth awyr agored’, i gyflwyno
profiadau dysgu cofiadwy ar gyfer eich pynciau cwricwlwm cenedlaethol
eleni.
Cofrestrwch
eich ysgol i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ac ewch
i’r ‘megamap’ yn:
Cysylltwch â’r Swyddog Prosiect PABA yn eich ardal
chi, a fydd yn gallu helpu gyda threfnu ymweliad fferm. Hefyd,
efallai y bydd yn gallu helpu gyda chost yr hyfforddwr.
|
 |
|
|
Mae’r Prosiect yn cynnal cwrs hyfforddiant tri diwrnod
ar gyfer ffermwyr sy’n cynnal ymweliadau ysgolion. Mae’r
cynllun hwn, sy’n arwain at achrediad gan y Rhwydwaith
Coleg Agored (OCN), wedi bod yn gweithredu yn Lloegr ers sawl
blwyddyn, ac mae mwy na 600 o ffermwyr wedi’i gwblhau.
Bydd FACE (Addysg Ffermio a Chefn Gwlad) Cymru, mewn cydweithrediad â’r
Prosiect PABA, yn cynnal peilot o’r Hyfforddiant CEVAS
cyntaf erioed ar gyfer y rheiny sy’n cynnig ymweliadau
addysgol yng nghefn gwlad.
Caiff y cwrs tri diwrnod ei gwblhau ym mis Mawrth, pan fydd
pob un a fydd yn cymryd rhan yn cyflwyno portffolios i gael
eu safoni gan Rwydwaith y Coleg Agored.
Bydd y cwrs yn cynnwys :
Diwrnod 1 Paratoi ar gyfer Ymweliadau Fferm
- Rhestr wirio ar gyfer ymweliad
- Asesiad Risg
- Proffil Fferm
- Arfarnu
Diwrnod 2 Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad yn y Cwricwlwm Cenedlaethol
- Cyfleoedd Dysgu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol
- Meysydd pwnc Cyfnod Allweddol – unedau QCA
- Paratoi Cynllun Gwaith ar gyfer ymweliad
- Aseiniadau
Diwrnod 3 Siarad â Disgyblion, Myfyrwyr ac Athrawon
- Cyflwyno sgwrs wedi’i baratoi
- Rheoli trafodaeth
- Paratoi eich portffolio ar gyfer safoni
Cynhelir cwrs arall ym Mhowys ac mewn rhan arall o Gymru
yn y dyfodol felly cysylltwch â’r Prosiect PABA
ar gyfer manylion cwrs Powys, neu Jane Powell o FACE Cymru
os y tu allan i Bowys, cyswllt: jnp@aber.ac.uk
|
|
Ymchwilydd Prifysgol yn ymweld â’r Prosiect
PABA
|
Tua chanol mis Hydref, fe wnaeth Laura Davis o Brifysgol
Warwick ymweld â’r Prosiect PABA am ddeuddydd,
i weld beth mae’r prosiect yn ei gyflawni drosti hi ei
hun. Mae Laura yn gysylltiedig ag Adolygiad Canol Tymor y Strategaeth
Fwyd a Lles ar gyfer Cymru. Mae’r Strategaeth ‘Fwyd
a Lles’, http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=499Àd=13299
a lansiwyd yn Chwefror 2003, yn rhoi ffocws i wella diet a statws
maethol poblogaeth Cymru. Mae hyn wedi’i gefnogi ymhellach
gan lansiad Her Iechyd Cymru a strategaethau eraill sy’n
ceisio cyrraedd grwpiau penodol o fewn y boblogaeth, er enghraifft
pobl oedrannus, plant a phobl ifanc.
Yn ystod ei hymweliad, aeth Laura i ymweld ag Ysgol GG Dolfor
ger Y Drenewydd i weld y plant yn gwneud Sciwars Ffrwythau
a Llyfn-ddiodydd Ffrwythau. Arhosodd yn yr ysgol i gael cinio,
a siaradodd â chogydd yr ysgol, yr athrawon a’r
plant am eu profiadau hwy. Ar ei hail ddiwrnod, ymunodd â babanod
o Ysgol GG Aberhafesb yn Fferm Offa. Yn nhywydd mwyn yr hydref,
fe wnaeth y plant ddarganfod llysiau yn tyfu yn y caeau,
a chawsant eu llaeth o amgylch ‘bwrdd’ yn yr
ysgubor, yn eistedd ar fyrnau gwellt.
Mae’r ffyrdd y mae’r Prosiect PABA yn gweithio
i ailgysylltu plant i’w gweld fel astudiaeth achos
unigryw yn yr Adolygiad Canol Tymor. ‘Roeddwn yn gwerthfawrogi’r
cyfle i siarad â Laura am ei phrofiad hi, a sut y gallwn
fynd ati i werthuso prosiect o’r natur hwn yn effeithiol’ meddai
Caroline wedyn.


|
|
|
| |
PYTHEFNOS FWYD PRYDEINIG LLWYDDIANNUS IAWN
|
Y pumed Pythefnos Fwyd Prydeinig, a gynhaliwyd rhwng 23
Medi a 8 Hydref 2006, oedd y dathliad cenedlaethol mwyaf ERIOED
o’r amrywiaeth eang a blasus o fwyd a gaiff ei gynhyrchu
ym Mhrydain. Noddwyd y digwyddiad hwn gan Aramark, Budgens,
Londis a Nationwide, ac roedd yn cynnwys Her Goginio Pyrex
ar gyfer ysgolion.
Thema’r digwyddiad eleni oedd ‘A ydych yn ei
Goginio?’, a chefnogwyd y digwyddiad gan werthwyr,
arlwywyr ac ysgolion, a drefnodd amrywiaeth o ddigwyddiadau
a hyrwyddiadau ar draws y wlad. Roedd yr uchafbwyntiau’n
cynnwys:
· Mwy o hyrwyddiadau nag erioed o’r blaen
mewn siopau … Cynigiwyd nifer o hyrwyddiadau a chyfleoedd
i flasu gan 2,200 o siopau Budgens a Londis, 300 o delicatessens,
siopau annibynnol, siopau fferm a marchnadoedd ffermwyr,
er mwyn temtio’r cyhoedd i ddefnyddio cynhwysion Prydeinig
tymhorol tra’n coginio gartref. Mae adroddiadau cynnar
yn awgrymu y bu cynnydd o 25% neu fwy yn ystod y pythefnos
yn y nifer o gwsmeriaid yn y siopau a fu’n cymryd rhan,
yn ogystal â chynnydd anhygoel o 50% yng ngwerthiant
y cynhyrchion y cynigiwyd cyfle i’w blasu. Am y tro
cyntaf erioed, fe wnaeth tri o archfarchnadoedd mwyaf Prydain
gynnig hyrwyddiadau Prydeinig yn ystod y digwyddiad.
· Y sector arlwyo yn cael llwyfan am y tro cyntaf … Cafodd
bwyd Prydeinig ei roi ar filoedd o fwydlenni mewn tafarndai,
bwytai, ysbytai a chantîns staff gan bump o’r
grwpiau gwasanaethu bwyd mwyaf, dan arweiniad ARAMARK, tri
grwp o dafarndai a’r holl gymdeithasau cogyddion. Fe
wnaeth hyd yn oed un o’r bwytai Indiaidd enwocaf yn
Llundain ymuno â ni, gan ddefnyddio cynhwysion Prydeinig
yn ei fwyd.
· Achub y Blaen ar Jamie Oliver…Mae Jamie
Oliver a’r Llywodraeth yn dechrau galw ar ysgolion
i gynnig gwersi coginio, ond mae Pythefnos Fwyd Prydeinig
eisoes yn arwain y ffordd. Cyn y digwyddiad, dosbarthwyd
y ganllaw gyntaf erioed ar gynnwys coginio o fewn y cwricwlwm
i 26,000 o ysgolion. O ganlyniad, rhoddwyd gwersi coginio
i filoedd o blant yn ystod y Pythefnos. Mewn cam arloesol,
fe wnaeth mudiadau yn cynrychioli dros 3,000 o gogyddion
gydweithio ag ysgolion i gynnig eu gwasanaethau yn y dosbarth,
ac i helpu athrawon i drefnu gweithgareddau coginio ymarferol.
Y nod yw i ddynwared y Ffrancod, sy’n anfon cogyddion
i mewn i ysgolion yn rheolaidd, er mwyn addysgu plant am
eu bwydydd cenedlaethol.
· Ysbryd cystadleuol yn annog plant i goginio …cynhaliwyd
amrywiaeth o gystadlaethau coginio yn ystod y Pythefnos.
Fe wnaeth siopau Budgens a Londis gydweithio ag ysgolion
lleol ar gyfer cystadleuaeth i gynllunio Het Cogydd yn dangos
cynnyrch lleol; trefnodd ARAMARK gystadleuaeth ‘Creu
Rysait ar gyfer Afalau Coginio’ i ysbrydoli plant ysgol
i ddechrau coginio. Hefyd, gwahoddwyd yr holl ysgolion i
gymryd rhan yn Her Goginio Pyrex er mwyn dod o hyd i’r
ysgol sy’n cynnwys coginio o fewn y cwricwlwm yn y
ffordd fwyaf arloesol a dychmygol. Cyhoeddir yr enillydd
yng nghanol mis Tachwedd.
· Cyrraedd cynulleidfa eang …fe wnaeth Pythefnos
Fwyd Prydeinig eleni gyrraedd mwy o’r cyhoedd nag erioed
o’r blaen. Cynhaliwyd miloedd o ddigwyddiadau ar draws
y sir, gyda gwyliau bwyd yng Nghanolbarth Lloegr, Gorllewin
Sussex, Swydd Lincoln, Malvern, Swydd Efrog, Caerfaddon,
Dyfnaint a Chernyw; ‘welly walks’; arddangosfeydd
coginio; ‘foraging forays’ a dathliadau arbennig
ar gyfer y cynhaeaf. Ac yn y wasg, cafodd y digwyddiad ei
fawrygu gan Terry Wogan, Jonathan Ross, the World Tonight,
the Archers, GMTV, Saturday Kitchen, Saturday Cooks a phob
papur newydd cenedlaethol. Mae ffigyrau cychwynnol yn awgrymu
fod y digwyddiad wedi cyrraedd cynulleidfa o 250 miliwn.
Dywed Alexia Robinson, trefnydd Pythefnos Fwyd Prydeinig: “Bob
blwyddyn, mae Pythefnos Fwyd Prydeinig yn mynd yn fwy, ac
yn fwy llwyddiannus. Mae’n rhoi cymhelliant masnachol
i werthwyr ac arlwywyr stocio bwyd Prydeinig, gan ei wneud
yn haws i’r cyhoedd gael gafael arno, ac ysbrydoli
ysgolion i’w gynnwys wrth iddynt addysgu’r cwricwlwm.
“ Erbyn hyn, mae mudiadau sy’n cynrychioli
43,820 o siopau, 11,560 o dafarndai, 43,300 o fwytai, 5,800
o gogyddion, mannau sy’n gwasanaethu twristiaid sy’n
derbyn 16 miliwn o ymwelwyr a grwpiau sy’n cynrychioli ¼ miliwn
o wirfoddolwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiad bob blwyddyn.
Hwn yw’r unig ddigwyddiad sy’n dod â’r
holl grwpiau hyn ynghyd. Gyda chymaint â hyn o gefnogaeth,
mae Pythefnos Fwyd Prydeinig mewn sefyllfa dda i newid arferion
bwyta’r wlad!”
|
Cynhelir Pythefnos Fwyd Prydeinig 2007 rhwng 22 Medi a
7 Hydref 2007. Am ragor o wybodaeth gweler www.britishfoodfortnight.co.uk
|
|
|
Prosiect Tair Blynedd newydd PABA
yn cael ei lansio gan y Dirprwy Weinidog yn y Sioe Fawr
|
| Roedd haul crasboeth dydd Mawrth y Sioe Fawr ym
Mhafiliwn Sir Drefaldwyn (y swydd nawdd) wrth ymyl y prif gylch
yn lleoliad delfrydol ar gyfer y digwyddiad hwn. Daeth nifer
o athrawon, cynghorwyr, ffermwyr a chynrychiolwyr mudiadau partner
(yn cynnwys Addysg Ffermio a Chefn Gwlad (FACE), yr Awdurdod
Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
yr Eglwys yng Nghymru a Thwristiaeth Canolbarth Cymru) at ei
gilydd ar gyfer y seremoni lansio.
Ar ôl cwblhau prosiect peilot deuddeg mis yn 2005,
mae Prosiect PABA wedi ennill cyllid gan Gyngor Cefn Gwlad
Cymru, a chefnogaeth barhaol Adran Addysg Cyngor Sir Powys
i ymestyn dros dair blynedd, i gynnig gwasanaethau ac adnoddau’r
prosiect i ysgolion trwy gydol Powys o fis Ebrill 2007.
|
| Roedd y Dirprwy Weinidog Tamsin Dunwoody AC yn cydnabod yr
agwedd unigryw sy’n cael ei ddatblygu ym Mhowys, a phwysleisiodd
bwysigrwydd ‘ailgysylltu’ plant â bwyd a ffermio
er mwyn eu haddysgu hwy, fel prynwyr ac aelodau o’r gymuned
yn y tymor hir. Wrth gyflwyno’r digwyddiad, cyfeiriodd
Antony Lewis, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth
Cymru, at ei werthfawrogiad o’r bartneriaeth gyda Chyngor
Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Sir Powys, a gwaith caled y Bwrdd
Prosiect (sy’n cynnwys athrawon a ffermwyr) sy’n
cwrdd yn rheolaidd i arwain y Prosiect.
Yna, cafwyd cyfle i fwynhau bwyd hynod
flasus a baratowyd gan Lavinia Vaughan,
aelod o Fwrdd y Prosiect ac un o Ymddiriedolwyr
Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth
Cymru.
Cafodd byrddau arddangos a rhai o adnoddau’r
Prosiect PABA eu harddangos ym Mhafiliwn
Sir Drefaldwyn trwy gydol yr wythnos, oherwydd
hyd yn hyn, mae’r Prosiect wedi’i
gyfyngu i Ysgolion Sir Drefaldwyn (Y gwanwyn
nesaf, bydd y prosiect yn chwilio am ragor
o staff i wasanaethu ysgolion yn Ne a Gorllewin
y sir).
|


|
| Rodd buwch newydd y Prosiect PABA yn llwyddiant ysgubol, ac
fe wnaeth cannoedd o blant (a rhai oedolion!) aros i’w
godro. Roedd rhai ohonynt yn llwyddiannus yn syth, ond roedd
rhaid i eraill ddyfalbarhau. Roedd rhai teidiau a neiniau yn
hel atgofion am y dyddiau pan yr oedd godro yn cael ei wneud â llaw,
a’r arbenigedd sydd wedi’i golli erbyn hyn. |
 |
|
| |
ASIANTAETH SAFONAU BWYD CYMRU YN
CYHOEDDI FOD PROSIECT CAFE WEDI ENNILL GWOBR ‘AFAL’
(Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol)
|
|
Mae Prosiect CAFE (Plant, Amaeth, Bwyd ac Amgylchedd)
wedi cael ei gydnabod gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru fel
rhan o Gynllun Gwobrau AFAL 2006. Mae’r gwobrau, a lansiwyd
yn Nhachwedd 2003, yn gynllun i gydnabod cyfraniadau unigolion
neu dimoedd i fentrau maethiad lleol sydd wedi cael effaith
bositif ar ddiet neu arferion bwyta yn y cymunedau y maent
yn eu gwasanaethu. Cyflwynwyd
y Wobr o £1000 a bowlen ffrwythau i Caroline Davies,
Cydlynydd y Prosiect gan Dr Peter Stevenson, Cyfarwyddwr Iechyd
Cyhoeddus Lleol ar gyfer Wrecsam, yng Nghynhadledd Maethiad
yr Asiantaeth yn Wrecsam ym mis Mai. Rhoddodd Caroline gyflwyniad
ar y Prosiect i gynulleidfa fawr, a ddaeth yn bennaf o’r
sector iechyd yng Nghymru. Yn ystod y cyflwyniad, pwysleisiodd
bwysigrwydd ‘ailgysylltu’ pobl â chynhyrchu
bwyd, ac addysgu sgiliau coginio i bobl ifanc.
|
|
Portffolio Gwaith ar gyfer Ymweliadau Fferm
|
 |
Yn fuan, bydd holl ysgolion yn Sir Drefaldwyn
yn derbyn ffolder ym mhost yr AALl, a fydd yn llawn gwybodaeth
ddefnyddiol i’w helpu i gael eu plant allan i’r ffermydd.
Bydd y ffeiliau hyn yn cynnwys y cwricwlwm cenedlaethol, asesiad
risg, materion ymarferol er enghraifft cludiant, ynghyd â chysylltiadau
a gwybodaeth ar ffermydd lleol lle mae’r teulu sy’n
ffermio yn cynnig ymweliadau yn wirfoddol. Dylai’r ffeil
fod yn adnodd gwerthfawr, naill ai i ddechrau neu i ddatblygu
potensial ymweliadau fferm. |
Cofrestrwch eich Ysgol gyda Menter ‘Let’s
Grow’ Morrison’s a dechreuwch gasglu talebion!
O 15 Medi tan 6 Tachwedd 2008, gall teuluoedd, gofalwyr a
ffrindiau eich disgyblion gasglu talebion ‘Let’s
Grow’ Morrisons o’u siop Morrisons lleol. Unwaith
y byddwch wedi cofrestru eich ysgol, bydd gennych hyd at 10
Ionawr 2009 i ddefnyddio’r talebion hyn i brynu offer
garddio am ddim; popeth o hadau a rhawiau i finiau compostio
a phlannwyr.
Cliciwch
yma i gofrestru
|
|
|
Bydd yr holl farchnadoedd yn cael eu gosod i fyny o 2.30pm,
byddant ar agor o 3pm, ac fel arfer byddant yn gorffen am
oddeutu 5.30pm. Mae ysgolion yn codi £5 y bwrdd, a
bydd y CRhA yn gwerthu lluniaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau,
cysylltwch â Caroline Davies ar 01938 810302
|
|
| |
|
Nod y prosiect PABA (Plant, Amaeth,
Bwyd ac Addysg) yw:
- datblygu rhaglen beilot o ymweliadau rhwng ysgolion/ffermydd
yn Sir Drefaldwyn
- cefnogi ac ysgogi athrawon a darlithwyr i ymweld â ffermydd
- gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Addysg Powys, y sectorau
bwyd, ffermio a thwristiaeth
- creu a monitro banc adnoddau ar ymweliadau fferm.
|
|
|