Croeso i brif wefan Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru
“Bwyd Lleol, Dyfodol Lleol”
Pobl leol yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer newid er gwell.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymgymryd ag ystod eang o fentrau bwyd lleol er mwyn cynorthwyo datblygu dyfodol cynaliadwy i gymunedau lleol. Mae ein gwaith yn cynnwys:
Datblygu Cymunedau a Meithrin Gallu – darparu mentrau bwyd lleol sy’n gwella gwybodaeth, sgiliau a hunanhyder pobl ynghyd â rhoi gwell hydwythedd a hunanddibyniaeth i gymunedau lleol.
Addysg ar gyfer Cynaliadwyedd – gweithio gyda phobl ifanc i ddarparu agenda Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang Llywodraethau Cymru a’r DG trwy brosiectau arloesol sy’n seiliedig ar y cwricwlwm.
Darparu gwasanaethau ymgynghorol i sectorau cyhoeddus, dielw a phreifat – ynglŷn â phob agwedd ar systemau bwyd lleol, cysylltu â’r gymuned a meithrin gallu a chynaliadwyedd mewn addysg.
Cynorthwyo Datblygu a Hyrwyddo Twristiaeth Fwyd Leol a Rhanbarthol – trwy hybu’r defnydd creadigol o fwydydd lleol a rhanbarthol mewn busnesau a digwyddiadau twristiaeth leol.


