Yr Hyn Rydym yn ei Wneud – Rhai o’n Prosiectau

Mae Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru yn darparu ystod eang o brosiectau â thema sylfaenol o ddatblygu cymunedau cynaliadwy trwy fwyd lleol.

Ymhlith ein prif brosiectau ar hyn o bryd mae:

Prosiect Powys CHEFS – Coginio, Bwyta Iach a Sgiliau Bwyd

Mae hwn yn brosiect tair blynedd, wedi’i ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr, sy’n darparu cyrsiau coginio yn y gymuned ledled Siroedd Trefaldwyn a Maesyfed ym Mhowys. Mae pob cwrs coginio yn cynnwys chwe sesiwn – un sesiwn tair awr yn wythnosol. Ym mhob sesiwn, bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn paratoi pryd llawn gan ddefnyddio cynhwysion ffres a thymhorol, ac wedyn byddant yn rhannu’r pryd gyda’i gilydd i ddathlu bwyd da.

Mae cyrsiau ar gael i bob grŵp a sefydliad cymunedol, gan gynnwys grŵp o bobl sy’n casglu enwau eraill sydd am ymuno. Mae’r cyrsiau am ddim, ac mae’r holl gynhwysion yn cael eu darparu.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan Powys CHEFS

Neu cysylltwch â Cath neu Sioned yn y swyddfa.

 

Marchnad Ffermwyr Ysgol

Bu Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru yn gyfrifol am y gwaith arloesol o ddatblygu’r Marchnadoedd Ffermwyr Ysgol cyntaf yn y DG, pan ddatblygwyd rhwydwaith o Farchnadoedd Ffermwyr Ysgol ar draws Powys. Ar hyn o bryd, gan weithio mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Bridd, mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio gydag ysgolion ar draws y DG er mwyn dangos iddynt sut i ddatblygu eu Marchnadoedd Ffermwyr Ysgol fel gwir fentrau ysgol. Bydd y disgyblion yn datblygu a rheoli eu marchnad eu hunain dan gyfarwyddyd a chymorth yr Ymddiriedolaeth, ac yna bydd y disgyblion yn gadael cynllun busnes fel bod disgyblion eraill yn gallu cynllunio’u marchnadoedd eu hunain yn y dyfodol.

Mae gwir farchnadoedd ffermwyr yn cael eu cynnal mewn neuaddau ysgol a chymuned. Fodd bynnag, mae Marchnadoedd Ffermwyr Ysgol yn fwy na dim ond marchnad – maent yn ddigwyddiadau cymdeithasol i’r gymuned gyfan, sy’n cael eu cynnal am ychydig oriau ar ôl ysgol. Maent yn rhoi cyfle i’r oedolion gyfarfod â’r cynhyrchwyr a chyfarfod â’i gilydd, fel arfer gyda lluniaeth wedi’i ddarparu gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon.

Heblaw bod y plant yn gallu chwarae rhan flaenllaw yn y marchnadoedd eu hunain, mae yna gyfleoedd mwy hyd yn oed. Bydd rhai cynhyrchwyr yn trefnu bod disgyblion yn ymweld â ffermydd er mwyn deall yr holl broses o drosglwyddo bwyd o’r fferm i’r plât. Hefyd gall rhai ysgolion gael incwm drwy’r farchnad, sy’n codi arian gwerthfawr tuag at brosiectau cynaliadwy eraill, gan gynnwys cludiant ar gyfer ymweliadau â ffermydd, cyfarpar a hadau ar gyfer tyfu cnydau, a gweithgareddau eraill.

Dlawrlwythwch daflen ddwyieithog am farchnadoedd ffermwyr ysgol yma

Ewch i’n gwefan marchnad ffermwyr ysgol yma

Mae’r Prosiect Marchnad Ffermwyr Ysgol yn ddim ond un o blith nifer o brosiectau menter ysgol sy’n cael eu cynnig gan yr Ymddiriedolaeth. I gael rhagor o wybodaeth am Farchnadoedd Ffermwyr Ysgol neu brosiectau menter ysgol eraill, byddwch cystal â chysylltu â Sioned neu Jane yn y swyddfa.

 

Mentrau a Gweithgareddau Eraill

Arloesedd

Mae Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru yn ceisio creu mentrau lleol newydd ac mae’n ymdrechu i wneud y rhain yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Cafodd Gŵyl Fwyd Cymru ei datblygu ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth mewn partneriaeth â Gerddi Neuadd Glanhafren. Bu’n rhedeg yr ŵyl ar y cyd yn ystod y pedair blynedd cyntaf hyd nes i’r Ŵyl gael ei gwneud yn ddigwyddiad ar wahân yn 2011.

Hefyd, mae gan yr Ymddiriedolaeth nifer o fentrau cyffrous sy’n cael eu datblygu’n brosiectau ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu modelau busnes posibl ar gyfer mentrau â pherchnogaeth gymunedol sy’n diwallu anghenion lleol dynodedig.

 

Gweithio gydag Ysgolion – Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang a Menter Ysgol

Yn ogystal â’r prosiect Marchnad Ffermwyr Ysgol, gall Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru ddarparu ystod o brosiectau sy’n seiliedig ar y cwricwlwm ac sy’n helpu ysgolion i gyflawni themâu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang a Menter Ysgol.

Yr hyn sy’n gwneud ein prosiectau’n wahanol yw ein bod yn gweithio i adael etifeddiaeth gynaliadwy. Ar ôl i’r prosiect ddod i ben bydd gan yr ysgol adnoddau wedi’u datblygu gan y plant sy’n gweithio ar y prosiect, a fydd yn gweithredu fel “cynllun busnes” ar gyfer disgyblion y flwyddyn ganlynol er mwyn ailadrodd y prosiect.

 

Gweithio gyda Chymunedau a Sefydliadau

Mae ein tîm staff yn cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol ym meysydd rheoli prosiectau, menter gymdeithasol, datblygu cymunedau a meithrin gallu ac addysg.

Rydym yn fodlon darparu cymorth a chefnogaeth i sefydliadau gwirfoddol a dielw ar sail ymgynghoriaeth ar delerau ffafriol a chystadleuol iawn.

Rydym hefyd yn cysylltu’n effeithiol â chymunedau ac yn darparu prosesau cyfranogi i awdurdodau ac asiantaethau statudol, o ddigwyddiadau untro i raglen gysylltu lawn.

Mae modd gwneud yr holl waith cysylltu cymunedol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith ymgynghorol, byddwch cystal â chysylltu â Cath neu Jane yn y swyddfa.