Pam bod bwyd lleol yn bwysig

Y Darlun Cyfan

Mae ein cyflenwad bwyd byd-eang yn dibynnu ar gwmnïau mân-werthu mawr yn hedfan bwydydd ffres o amgylch y byd drwy gydol y flwyddyn. Gall unrhyw darfu ar systemau trafnidiaeth byd-eang amharu’n ddifrifol ar ein cyflenwadau bwyd, ac mae’r systemau dosbarthu “mewn union bryd” sy’n cael eu harfer gan yr archfarchnadoedd mawr yn golygu pe bai’r system yn methu ceid prinder bwyd difrifol mewn naw pryd bwyd yn unig – tri diwrnod!

Hefyd, mae prynu bwyd sy’n cael ei gynhyrchu mewn lleoedd pellennig yn dwyn ein harian o’n cymunedau lleol – mae’r arian rydym yn ei wario’n hybu elw cwmnïau mawr sy’n prynu mor rhad ag y bo modd ar y farchnad fyd-eang.

Mewn cyferbyniad, mae prynu cynnyrch sy’n cael ei dyfu a’i gynhyrchu’n lleol mewn siopau lleol ac annibynnol yn cynorthwyo’r cynhyrchwr a’r perchennog siop, sydd wedyn â’r arian yn eu pocedi i’w wario eto’n lleol. Yn hytrach na bod ein harian yn mynd allan o’r economi lleol, mae’n aros gyda phobl leol, i’w wario eto, fel bod budd y gwario’n cael ei drosglwyddo i fusnesau lleol hefyd – ac mae hyn yn cael ei alw’n “effaith lluosi lleol”. Mae prynu bwyd lleol a rhanbarthol hefyd yn ffordd wych o leihau milltiroedd bwyd, a thrwy hynny leihau ôl-troed carbon eich basged siopa a helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Trwy ailadeiladu economi bwyd mwy lleol – pan fo bwyd yn teithio cyn lleied â phosibl o’r man cynhyrchu i’r man defnyddio – rydym yn gwneud ein heconomïau a chymunedau lleol yn fwy hunan ddibynnol a  hydwyth yn wyneb yr effeithiau andwyol a allai ddeillio o gynnydd mawr ym mhrisiau olew a bwyd yn fyd-eang.

 

Meddyliwch yn Lleol, Gweithredwch yn Lleol, Prynwch yn Lleol, Tyfwch yn Lleol

Mae prynu bwyd oddi wrth ffermwyr a chynhyrchwyr lleol, ac mewn siopau sy’n cynnig cynnyrch lleol, yn helpu i’w cadw mewn busnes – ac mae hyn yn ei dro yn helpu i greu swyddi lleol i bobl yn y gymuned.

Bydd prynu cynnyrch lleol a thymhorol yn eich helpu chi i gael cynnyrch sydd y mwyaf ffres posibl ac y mae modd ei olrhain yn ôl i’r man cynhyrchu. Mae bwyta ffrwythau a llysiau yn ystod eu tymor naturiol yn golygu eu bod yn blasu’n well. Po fyrred yr amser o’r cae i’r fforc, y mwyaf o fitaminau a mwynau sydd yn eich ffrwythau a llysiau.

Mae tyfu eich bwyd eich hun yn well hyd yn oed – ni fydd bwyd byth yn fwy ffres na phan fydd yn dod yn syth o’r ardd, ac mae hynny’n haws nag a dybiech. Os oes gennych ddarn bychan o dir a digon o amser yn wythnosol, gallwch ychwanegu llysiau a sawrlysiau ffres at eich prydau a gwneud i chi ddeall yn well o ble mae’ch bwyd yn dod.

Cefnogwch eich marchnadoedd ffermwyr a gwyliau bwyd lleol - mae’n ffordd wahanol o siopa ar gyfer bwydydd sydd wedi’u tyfu neu eu prosesu’n lleol ac sy’n cael eu gwerthu’n uniongyrchol i chi, y cwsmer, gan roi gwir ddewis yn lle’r cynnyrch unffurf a gynhyrchir ar raddfa eang. Mae’r marchnadoedd a gwyliau ar agor i holl aelodau’r cyhoedd i brynu cynnyrch ffres o’r fferm ac i gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr lleol. Nid yw hyn yn ymwneud ag unrhyw ystrywiau marchnata – mae’r cynhyrchion yn siarad drostynt eu hunain.

 

Beth sy’n Dymhorol?

I gael siart defnyddiol sy’n dangos beth sy’n dymhorol, byddwch cystal â chlicio yma.