Sut gallwch chi helpu

Mae Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru yn cael ei harwain gan grŵp o wirfoddolwyr ymrwymedig sy’n dymuno ailadeiladu diwylliant bwyd lleol cryf yn seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn:

  • bwyd lleol ffres o ansawdd da sydd ar gael i bawb
  • defnyddwyr sy’n deall am fwyd, sut caiff ei gynhyrchu, sut i’w dyfu a’i goginio
  • lles anifeiliaid o safon uchel sy’n cynnig olrheinedd ledled y broses gynhyrchu
  • cynhyrchwyr yn fodlon siarad yn onest ac agored i gwsmeriaid am y cynhyrchion a’u dulliau cynhyrchu
  • defnyddwyr yn fodlon cefnogi economi lleol a rhanbarthol cryf trwy gefnogi busnesau lleol
  • unigolion a chymunedau’n gwneud dewisiadau defnyddwyr positif er budd a rheolaeth lleol yn erbyn cwmnïau marchnata byd eang
  • unigolion a chymunedau’n gallu tyfu a choginio bwyd ffres a thymhorol, gan wneud y defnydd gorau o’n hamgylchedd lleol a thymhorau
  • unigolion yn ymuno â’i gilydd mewn mentrau cymdeithasol i fynd i’r afael ag anghenion lleol ar lefel leol.

Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn derbyn unrhyw gyllido craidd; mae ein holl weithgareddau ag angen cymorth grant i’w cyflawni.

 

Efallai y gallwch helpu trwy un o’r ffyrdd a ganlyn

Fel un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd
Rydym drwy’r amser yn chwilio am bobl frwdfrydig i ymuno â’r Bwrdd er mwyn cyflwyno sgiliau a syniadau newydd. Mae aelodaeth o’r Bwrdd yn wirfoddol. Yr ymrwymiad lleiaf yw mynychu cyfarfodydd chwarterol y Bwrdd, er bod llawer o’r Cyfarwyddwyr yn cyfrannu at is-grwpiau prosiectau ac yn gweithredu’n wirfoddol ar brosiectau.

Fel Tiwtor ar ein Prosiect CHEFS
Mae angen rhagor o diwtoriaid arnom i ddarparu ein cyrsiau coginio. Os ydych chi’n gogydd angerddol, yn frwdfrydig ynglŷn â bwydydd lleol, ac am rannu’ch brwdfrydedd ag eraill, byddwch cystal â chysylltu â’r swyddfa i gael trafodaeth anffurfiol.

Fel Gwirfoddolwr
Mae llawer o’n prosiectau yn addas ar gyfer gwirfoddolwyr. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw agwedd ar ein gwaith ac os ydych yn dymuno cynnig ychydig oriau o gymorth, byddwch cystal â chysylltu â’r swyddfa (Sylwch, os gwelwch yn dda, y bydd rhaid i ni wneud ymchwiliad Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer unrhyw wirfoddolwyr a fydd mewn cysylltiad â phlant neu oedolion agored i niwed trwy weithgareddau’r Ymddiriedolaeth).

Fel cyllidwr
Mae angen cyllid ar bob un o’n prosiectau er mwyn talu am amser y staff, treuliau a’r defnyddiau sydd eu hangen i ddarparu’r prosiectau. Os ydych chi’n gorff cyllido ac os gallech fod â diddordeb mewn cyllido unrhyw agwedd ar ein gwaith yn eich ardal, byddwch cystal â chysylltu â’r swyddfa.